Main content

Ilker Arcayürek

Tenor o Twrci, 30 oed

Cefais fy ngeni yn Istanbul a fy magu yn Vienna. Yn 2010 - 2013 roeddwn yn aelod o Stiwdio Opera Ryngwladol Opera Zürich ble'r ymddangosais am y tro cyntaf fel Ferrando Così fan tutte ar brif lwyfan Tŷ Opera Zürich yn 2013. Mae'r gwobrau yr wyf wedi'u hennill yn cynnwys y drydedd wobr yng nghystadleuaeth Hugo Wolf 2012.

Rwyf wedi perfformio ar hyd a lled Y Swistir, yn cynnwys perfformio prif ran Orlando Paladino yn Tonhalle Zürich ac yn KKL yn Lucerne ac fel Don Basilio Le nozze di Figaro yng Ngŵyl Verbier. Ymaelodais ag ensemble Stadttheater Klagenfurt yn nhymor 2013/14, ble'r ymddangosais am y tro cyntaf fel Alfred Die Fledermaus, Tamino Die Zauberflöte, Chevalier de la force Les Dialogues des Carmélites, Tywysog The Love for Three Oranges a Chanwr Eidalaidd Der Rosenkavalier.

Rhoddais fy natganiad cyntaf yn Bonn gyda Dichterliebe a Liederkreis Op 24 Schumann, ac yn 2014 cenais Offeren yn C Fwyaf Beethoven gyda Franz Welser-Möst yn Fienna.

Yn 2015/16 byddaf yn ymuno â Staatstheater Nürnberg ble fydd fy rhannau yn cynnwys Rodolfo La bohème a Nadir Les pêcheurs de perles.

Rwyf yn mwynhau hen recordiadau opera - yn arbennig rhai gan denoriaid wrth gwrs - ac rwy'n hoffi coginio. Hefyd, rwyf yn hoff iawn o bêl-droed ac arferais chwarae cryn dipyn.