Main content

Regula Mühlemann

Soprano o'r Swistir, 29 oed

Cefais fy ngeni yn Lucerne ac astudiais yn yr Ysgol Gerddoriaeth yno. Mae'r rhannau yr wyf wedi eu perfformio yn Lucerne yn cynnwys Barbarina Le nozze di Figaro a Papagena Die Fledermaus. Yn 2012 ymddangosais am y tro cyntaf yng Ngŵyl Salzburh, gan ganu rhan Papagena ifanc yn Das Labyrinth P. v. Winter.

Rwyf wedi perfformio mewn nifer o dai opera Ewropeaidd, yn cynnwys Giannetta L'elisir d'amore gydag Opera Zurich ac yn Baden-Baden, ble'r ymddangosais hefyd fel Papagena gyda Syr Simon Rattle a Cherddorfa Ffilharmonig Berlin. Yn 2012 cenais Despina Così fan tutte yn Teatro la Fenice ac yn 2013 cenais Isolier Le Comte Ory yn Theater ân dêr Wien.

Rwyf hefyd wedi gwneud dwy ffilm – yn canu Ännchen yn Hunter’s Bride ac Amore yn Gluck’s Orfeo. Y tymor hwn byddaf yn ymddangos am y tro cyntaf gyda De Nederlandse Opera yn canu Papagena a Gretel Hänsel und Gretel yn Torino. Mae cyhoeddiadau yn y dyfodol yn cynnwys Barbarina mewn cyngerdd gyda Bryn Terfel , Zerlina Don Giovanni ac Offeren yn C Leiaf Mozart yn Gstaad a chyngherddau gyda Cherddorfa Siambr Yr Alban.

Rwyf yn mwynhau teithio ac rwyf wrth fy modd yn coginio ac yn dilyn ffasiwn - fy mam a finnau sy'n dylunio ac yn creu fy ngwisgoedd ar gyfer cyngherddau. Am ddwy flynedd bûm yn ysgrifennu colofn i bapur newydd yn Y Swistir, nes i mi fod yn rhy brysur gyda fy ngwaith.