Main content

Oleksiy Palchykov

Tenor o'r Iwcrain, 29 oed

Cefais fy ngeni yn Kiev ac astudiais yn Academi Gerddorol Genedlaethol Tchaikovsky. Ers 2010, rwyf wedi derbyn nifer o wobrau mewn cystadlaethau rhyngwladol yn cynnwys y Prix Lyrique du Cercle Carpeaux a'r Prix Lyrique de L’AROP yn 2014.
Ymddangosais am y tro cyntaf yn 2008 yn canu Triquet/Lensky Eugene Onegin yn Theatr Opera Cenedlaethol Shevchenko. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys teithio'r Swistir fel Alfredo La traviata gyda Theatr Gerdd Kiev; perfformio tair rhan The Nose yn Festival d’Aix-en-Provence 2011 a gydag Opéra de Lyon; Trydydd Sgweier Parsifal yn Lyon a Chaneuon Iddewig Shostakovich gyda Cherddorfa Symffoni Thessaloniki.
Ymunais ag Atelier Lyrique Opéra national de Paris yn 2012, ble'r wyf wedi perfformio Gernando L'isola disabitata, Ecclitico Il mondo della luna, Corws Meibion Treisio Lucretia a Don Ottavio Don Giovanni. Y tymor hwn rwyf yn perfformio Ferrando Così fan tutte a Pylade Iphigénie ên Tauride. Ymddangosais am y tro cyntaf gydag Opéra national de Paris fel Messenger Aida yn 2013, ac yn 2014 ymddangosais yn Requiem Mozart ynn Notre-Dame de Paris ac yn St Martin-in-the-Fields.
Yn 2015-16 byddaf yn perfformio Scaramouche Ariadne auf Naxos a Ruiz Il trovatore gydag Opéra national de Paris, a Lensky gydag Opera Garsington yn 2016.
Rwyf yn ddilynwr pêl-droed brwd ac mae gen i gasgliad mawr o 61 o sgarffiau pêl-droed.