Main content

Insu Hwang

Bâs-bariton o Dde Corea, 32 oed

Cefais fy ngeni yn Seoul ac astudiais ym Mhrifysgol Yonsei, yna yn Yr Almaen yn Hochschule fur Musik, Karlsruhe gyda Donald Litaker ac ar hyn o bryd rwyf yn astudio yn Hochschule fur Musik, Detmold gyda Susan Anthony. Derbyniais Ysgoloriaeth DAAD yn 2011 ac Ysgoloriaeth Brahmshaus yn 2012.

Rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau. Cyrhaeddais rownd derfynol cystadleuaeth Brenhines Elisabeth 2011 ac yn 2013 enillais y drydedd wobr a gwobr arbennig Mozart yng nghystadleuaeth ganu Ryngwladol Veronica Dunne, a'r ail wobr yng nghystadleuaeth ganu ryngwladol Gut Immling.

Rwyf wedi ymddangos nifer o weithiau mewn cyngherddau gyda Cherddorfa Symffoni Hof ym Mafaria, ac wedi rhoi datganiadau unigol ym Mrwsel a Karlsruhe. Mae rhannau opera yn cynnwys Guglielmo Così fan tutte a Chownt Le nozze di Figaro, a hynny yn Seoul; prif ran Falstaff yn Karlsruhe; a Zar Der Zar lässt sich photografieren Kurt Weill ym Munich.

Ar hyn o bryd rwyf yn aelod o raglen Artistiaid Ifanc yn Landestheater Detmold, ble rwyf wedi perfformio rhannau Montano Otello, Nazarene Cyntaf Salome a Sarastro Die Zauberflöte.

Yn fy amser fy hun, rwy'n hoffi cadw'n heini ac yn mwynhau nofio yn arbennig.