Ingeborg Gillebo
Mezzo-soprano o Norwy, 32 oed
Cefais fy ngeni yn Lillehammer ac astudiais yn Athrofa Gerddoriaeth Norwy ac yn yr Academi Opera yn Copenhagen. Yn 2011 cyrhaeddais rownd derfynol cystadleuaeth Belverde ac ennill yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol y Frenhines Sonja.
Yn 2010 ymddangosais am y tro cyntaf gydag Opera Brenhinol Denmarc fel Margret Wozzeck a gydag Opera Cenedlaethol Norwy fel Cherubino Le nozze di Figaro. Cenais Rosina Il barbiere di Siviglia a Costanza L'isola disabitata gydag Opera Cenedlaethol Norwy, Solveig Peer Gynt yng Ngŵyl Peer Gynt. Roedd fy nghyhoeddiadau yn 2013 yn cynnwys Nicklausse Les contes d’Hoffmann, Lola Cavalleria rusticana gydag Opera Cenedlaethol Norwy a Volve ym mherfformiad cyntaf byd-eang o The voice from Mímisbrunnr Ragnar Söderlind. Roedd 2014 yn cynnwys Cherubino gydag Opera Metropolitan, Zerlina Don Giovanni gydag Opera Cenedlaethol Norwy, Offeren C Leiaf Mozart gydag Orchestre de chambre de Paris a Sir Roger Norrington, Stabat Mater Haydn yn Oslo gyda Cherddorfa Siambr Norwy a Symphony Rhif 2 - Lobgesang Mendelssohn gyda Cherddorfa Siambr Sweden.
Rwyf yn edrych ymlaen at berfformiadau fel Morwyn y blodau Parsifal ym Mirmingham a Bayreuth; Cherubino yn Zürich, Vienna ac Oslo; datganiad yn Antwerp; a cherddoriaeth gyngerdd Bach a Mozart.
Rwyf yn mwynhau gwau, gwnïo, sgïo, beicio a cherdded. Ac rwyf yn dda iawn am roi dodrefn IKEA at ei gilydd!

