Main content

Blaise Malaba

Bâs o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo , 26 oed

Cefais fy ngeni yn Kisangani yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ac ar hyn o bryd rwyf yn astudio yng Nghyfadran Cysylltiadau Rhyngwladol a Chyfadran Diwylliant a Chelfyddydau Prifysgol Genedlaethol Ivan Franko yn Lviv.

Dechreuais ganu gyda chôr yr eglwys fel unawdydd, yna'r côr myfyrwyr yn y brifysgol a gyda chôr meibion Lviv. Dechreuodd fy hyfforddiant lleisiol o ddifrif o dan adain fy athro cyntaf, Orest Sydyr, yn Ionawr 2012. Ar ôl dim ond chwe mis rhoddais fy natganiad cyntaf a chymryd rhan yn fy nghystadleuaeth gyntaf, Cystadleuaeth Gerdd Ryngwladol Mykola Lycenko. Ers hynny, rwyf wedi dechrau gweithio o ddifrif ar rannau Monterone a Sparafucile yn Rigoletto, ac rwyf yn gobeithio cael clyweliad ar gyfer rhan Monterone gydag Opera Lviv.

Ers Ionawr 2014 rwyf wedi parhau â fy hyfforddiant lleisiol gyda'r Athro Bogdan Bazylykut, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o gyngherddau yng ngŵyl gerdd Ryngwladol Icydora Vymera ar gyfer artistiaid ifanc.

Mae gen i ddiddordeb mewn llenyddiaeth a gwahanol fathau o gerddoriaeth, opera yn bennaf- Verdi yn arbennig. Rwyf hefyd yn hoff o gerddoriaeth glasurol yn gyffredinol ac mae gen i ddiddordeb neilltuol mewn caneuon sanctaidd. Yn fy amser fy hun, rwyf yn mwynhau chwaraeon a choginio.