Marina Pinchuk
Mezzo-soprano o Belarws 32 Oed
Cefais fy ngeni ym Mogilev ac astudiais yno yn Ysgol Gerddoriaeth Wladol Rimsky-Korsakov St Petersburg, ble cenais Olga Eugene Onegin, Lyubasha Gwraig y Tsar, Cherubino Le nozze di Figaro a Smeton Anna Bolena. Enillais y drydedd wobr yng Nghystadleuaeth Lleisiau Rhyngwladol Anita Cerquetti 2011 yn yr Eidal.
Perfformiais am y tro cyntaf fel Olga gyda Chwmni Theatr Mikhaylovsky, ble rwyf hefyd wedi canu Lyubasha, Polina Pique Dame, Varvara Katya Kabanova, Konchakovna Y Tywysog Igor a Flora La traviata. Ar daith yn Asia yn 2009, perfformiais Nawfed Symffoni Beethoven a rhan Olga yn Tokyo, Yokohama a Daegu, De Corea.
Yn 2011, cymerais ran yn Accademia Rossiniana di Pesaro gydag Alberto Zedda, ble perfformiais Maddalena Il viaggio a Reims. Yn 2013 cefais fy newis i gymryd rhan yn Opera Studio Centre de Perfeccionament Plácido Domingo yn Valencia, gan berfformio Pisana Il due Foscari. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Dunyasha Gwraig y Tsar yn Theatr Wladol Kazan; Fenena Nabucco yn Theater Comunale di Bologna yn 2013; a phrif rannau Rinaldo a Threisio Lucretia yn Valencia yn 2014.
Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys Die Walküre yn Teatro Campoamor, Oviedo ym mis Medi.
Rwyf yn mwynhau rhedeg, darllen a theithio.

