Main content

Lauren Michelle

Soprano o'r UDA, 31 oed

Cefais fy ngeni yn Los Angeles ac astudiais yn Ysgol Juilliard ac UCLA. Mae'r gwobrau yr wyf wedi eu hennill yn cynnwys Cystadleuaeth Celfyddyd Leisiol Leontyne Price, cystadleuaeth ryngwladol Francisco Viñas 2015 / Gwobr Neilltuol Accademia Musicale Chigiana de Siena ac yn ddiweddar cipiais y drydedd wobr yn Rownd Derfynol Ranbarthol Arfordir y Gwlff yng Nghlyweliadau Cyngor Cenedlaethol Opera Metropolitan. Rwyf wedi cymryd rhan mewn rhaglenni i artistiaid ifanc yng Ngŵyl Gerddoriaeth Chautauqua, Rhaglen Britten-Pears a Chanolfan Theatr Opera Aspen.

Yn ddiweddar ymddangosais am y tro cyntaf yn Neuadd Carnegie yn The Road of Promise Hurt Weill. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Nella Gianni Schicch yn Aspen, Helena A Midsummer Night’s Dream yn Banff a fy ymddangosiad cyntaf fel Lauretta Gianni Schicchi yn Teatro Romano di Fiesole.

Mewn cyngherddau rwyf wedi perfformio Bachianas Brasileiras Rhif 5 Villa-Lobos ar draws Ewrop; Lieder a chansons gyda Rencontres Musicales Internationales des Graves; Shéhérazade Ravel yn Los Angeles; ac rwyf wedi ymddangos gyda Symffoni Southeast yn canu Messiah Handel, Gloria Poulenc, a Requiem Rutter. Rwyf wedi cyflwyno datganiadau unigol ar draws UDA, De Affrica, Yr Eidal, Ffrainc a Lloegr ac rwyf wedi ymddangos yng Ngŵyl Fringe Caeredin mewn perfformiadau amlddisgyblaethol gyda Company XIV.

Mae fy niddordebau yn cynnwys dylunio a chreu dillad, celf, garddio a dawnsio bol. Rwyf yn credu'n gryf mewn defnyddio addysg gerddorol i greu newid cymdeithasol.