Main content

Nadine Koutcher

Soprano o Belarws, 32 oed

Cefais fy ngeni ym Minsk ac astudiais yng Ngholeg Cerdd Gwladol Minsk ac Ysgol Gerddoriaeth St Petersburg. Mae buddugoliaethau mewn cystadlaethau yn cynnwys y Grand Prix yng Nghystadleuaeth Lleisiau Rhyngwladol 's-Hertogenbosch 2012, ble roeddwn hefyd yn falch o ennill Gwobr y Gwrandawyr a'r wobr am y perfformiad gorau o'r darn gorfodol.
Perfformiais am y tro cyntaf yn Theatr Mikhailovsky yn St Petersburg yn 2009 fel Violetta La traviata, ac yn dilyn hynny cefais rannau yn cynnwys Tywysoges Eudoxie La Juive ac Oscar Un ballo in maschera. Yn 2012 ymunais ag Opera Gwladol Perm, gan ennill Mwgwd Aur Moscow am fy mherfformiad fel Medea ym Medea Material Pascal Dusapin. Yn 2013 canais Doña Isabel yn Y Frenhines Indiaidd mewn cydgynhyrchiad gan Opera Perm, Teatro Real ac ENO, dan arweiniad Teodor Currentzis a gynhyrchwyd gan Peter Sellars, gan ganu yn Teatro Real am y tro cyntaf.

Yn 2013 cenais Nawfed Symffoni Beethoven yn y Concertgebouw ac yn Requiem Verdi yn Norwich gyda Cherddorfa Symffoni Llundain. Recordiais CD o gerddoriaeth Rameau yn 2012 gyda Cherddorfa MusicAeterna a Currentzis.
Mae cyhoeddiadau yn y dyfodol yn cynnwys Countess Le nozze di Figaro a phrif ran Lucia di Lammermoor yn Théâtre du Capitole, Toulouse ac Amenaide Tancredi yn Teatro Municipal de Santiago de Chile.