Main content

Kelebogile Besong

Soprano o Dde Affrica, 28 oed

Cefais fy ngeni yn Pretoria ac astudiais ganu yng Ngholeg Tshwane. Mae'r gwobrau yr wyf wedi eu hennill yn Ne Affrica yn cynnwys gwobr gyntaf Myfyriwr Opera o Dde Affrica yng Nghystadleuaeth Opera Cenedlaethol DA yn 2006 a Gwobr Artist Ifanc Standard Bank 2012. Yn 2013 cefais fy enwi yn Ferch Fwyaf Dylanwadol Affrica ym myd Busnes a Llywodraeth (Celfyddydau).
Mae'r rhannau yr wyf wedi'u perfformio gydag Opera Affrica yn cynnwys Musetta La bohème, Micaëla Carmen a Susanna Le nozze di Figaro. Ymddangosais yn Innsbrucker Festwochen dêr Alten Musik yn 2013 gan chwarae rhannau Fenws Fenws ac Adonis a Dewines Dido ac Aeneas. Uchafbwyntiau diweddar eraill yw fy ymddangosiad cyntaf fel Violetta La traviata gydag Opéra national de Montpellier, fy ymddangosiad cyntaf fel Contessa Le nozze di Figaro gydag Opera Tampere a datganiad unigol yn Operadagen Rotterdam.
Yn nhymor 2014/2015 rwyf am y tro cyntaf yn perfformio prif ran Aida gydag Opera Malmö a byddaf yn canu Musetta gydag Opera Grange Park. Ymhellach yn y dyfodol byddaf yn teithio'r Iseldiroedd yn canu Contessa Le nozze di Figaro gyda Cherddorfa'r Ddeunawfed Ganrif a byddaf yn ymddangos yng Ngŵyl Bregenz fel Fiordiligi Così fan tutte mewn cynhyrchiad gan artistiaid ifanc.
Rwyf yn mwynhau ymarfer corff a threulio amser gwerthfawr adref gyda fy nheulu.