Sebastian Pilgrim
Bâs, Yr Almaen, 30 oed
Cefais fy ngeni yn Hertford yng ngogledd Yr Almaen ac astudiais yn Detmold a Hannover gyda Sabine Ritterbusch ac Alessandra Althoff-Pugliese. Ymysg gwobrau eraill, derbyniais Wobr Wolfgang Wagner am berfformiadau fel Daland a Hagen yn y Gystadleuaeth Ryngwladol i Leisiau Wagner 2012.
Perfformiais am y tro cyntaf mewn opera fel Syr John Falstaff yng nghynhyrchiad Opera Ieuenctid Rhyngwladol Schloss Weikersheim 2009 o The Merry Wives of Windsor. Hefyd yn 2009, tra'r oeddwn yn dal yn fyfyriwr, bu i mi ddod yn aelod o Theater Erfurt, gan berfformio repertoire megis Tierbändiger a Athlet Lulu a Kaspar a Eremit Der Freischütz. Yna ymunais â'r ensemble yn Nationaltheater Mannheim yn 2013, gan ganu prif rannau megis Sarastro Die Zauberflöte, Fiesco Simone Boccanegra, Y Brenin a'r Cogydd yn Love for Three Oranges a Brenin Philip Don Carlo. Yn ogystal â chanu opera, rwyf yn cyfansoddi ac yn arwain ac rwyf wedi llwyfannu cerddoriaeth newydd am y tro cyntaf sawl tro. Rwyf yn perfformio unawdau oratorio yn rheolaidd, megis y rhai a geir yn y Cread gan Haydn, Oratorio'r Nadolig gan Bach ac Elijah gan Mendelssohn.
Mae'r rhannau ar y gorwel yn Mannheim yn cynnwys Fafner Das Rheingold, Geisterbote Die Frau ohne Schatten, Cadfridog The Gambler a Cadmus The Bassarids.
Yn ogystal â fy ngyrfa gerddorol, rwyf yn arfer cinesioleg gynhwysol. Rwyf wrth fy modd yn coginio ac yn creu siocled.

