Anaïs Constans
Soprano, Ffrainc, 26 oed
Cefais fy ngeni ym Montauban yn ardal Tarn-et-Garonne a bu i mi raddio yn Ysgol Gerddoriaeth Toulouse a Centre Nationale d’Artistes Lyriques ym Marseille cyn parhau â fy astudiaethau gyda Claudine Ducret, Jean Marc Bouget a Nino Pavlenichvili. Rwyf wedi ennill gwobrau mewn nifer o gystadlaethau rhyngwladol yn cynnwys Gwobr y Cyhoedd a'r drydedd wobr yn Théâtre du Capitole, cystadleuaeth ryngwladol Toulouse yn 2013, y wobr gyntaf a'r wobr ieuenctid yng Nghystadleuaeth Canu Ryngwladol Mâcon 2013, cydradd drydydd yng nghystadleuaeth Operalia 2014 yn Los Angeles a'r drydedd wobr yn Competition Montserrat Caballé 2014 yn Zaragoza.
Mae fy nghyhoeddiadau diweddar yn cynnwys Le feu L’enfant et les sortilèges a Pisana I due Foscari yn Théâtre du Capitole, Toulouse; Miss Ellen Lakmé gydag Opéra Théâtre Saint-Étienne;
Pauline La vie parisienne gydag Opéra de Toulon; Musetta La bohème yng Ngŵyl Gattières a Lucy Y Teleffon yn Festival symphonies d’automne. Mae fy nyddiadur ar gyfer y dyfodol yn cynnwys perfformiadau fel Nannetta Falstaff yng ngŵyl Saint-Céré; La voce del cielo Don Carlo gydag Opéra National de Bordeaux; Berta Il barbiere di Siviglia gydag Opéra Bastille a Der Schäfer Tannhaüser gydag Opéra Monte-Carlo.
Rwyf yn mwynhau teithio, darganfod diwylliannau newydd a threulio amser gyda fy ffrindiau.

