Céline Forrest
Soprano o Gymru, 24 oed
Cefais fy ngeni yn Abertawe ac enillais ysgoloriaeth i'r Academi Cerdd Brenhinol, ble'r wyf nawr yn gorffen fy niploma uwch, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Iarlles Munster, Gwobr Richard Lewis, ysgoloriaeth Sefydliad Y Fonesig Kiri Te Kanawa ac ysgoloriaeth Miriam Lycette. Llynedd enillais Wobr Richard Lewis/Jean Shanks a Gwobr Pavarotti yn yr Academi. Hefyd derbyniais aelodaeth o Gylch Canu'r Academi Brydeinig.
Yn ddiweddar rwyf wedi perfformio prif ran Suor Angelica a Chorws Merched Treisio Lucretia ar gyfer Opera'r Academi Frenhinol. Mae perfformiadau gydag Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y brif ran yn The Sleeper yn 2011. Mae fy repertoire opera arall yn cynnwys Donna Anna Don Giovanni; Marschallin Der Rosenkavalier a phrif ran Maria Stuarda. Rwyf yn perfformio fel unawdydd gyda Chantorion Ariosa, ac rwyf wedi teithio gyda hwy i Ddulyn, Prâg, Paris, Barcelona a Thwscani.
Rwyf yn dychwelyd i Gymru i berfformio fel unawdydd gwadd gyda nifer o gorau - mae ymddangosiadau diweddar wedi cynnwys Y Cread Haydn a Judas Maccabaeus. Mae gwaith cyngerdd arall yn cynnwys Rewuiem Mozart gyda'r Hallé yn Neuadd Bridgewater a chyngerdd yn Llysgenhadaeth Prydain ym Madrid fis Hydref diwethaf.
Rwyf yn wirioneddol wrth fy modd yn dychwelyd adref i weld fy nheulu mawr, ac rwyf yn mwynhau darllen nofelau hanesyddol.

