Main content
I SEE RIVERS
Daw Eline, Gøril a Lill o’r band I See Rivers o Norwy yn wreiddiol, ond maen nhw bellach wedi ymgartrefu yn Ninbych-y-pysgod. Byddwch yn deall pam eu bod yn disgrifio eu sain fel "Float Folk” gyda’r harmonïau hyfryd a’r alawon anhygoel sy’n adleisio dylanwad Fleet Foxes, Sufjan Stevens a Feist.













