Main content
Mellt
Weithiau, does dim byd i'w ddweud. Yn arbennig pan fydd band cyffrous iawn ar y sîn, bron dros nos, a hynny'n annisgwyl.
| Teitl ffaith | Data ffaith |
|---|---|
| Aelodau: | Glyn Rhys-James (Gitâr/ llais), Ellis Walker (Bas/ llais), Jacob Hodges (Drymiau) |
Sain a Fideo
Oriel Lluniau
Ond o leiaf fe wyddom o ble maen nhw'n dod. Daw aelodau Mellt o Aberystwyth. Disgyblion Blwyddyn 13 (Chweched Uchaf i chi a fi) yn Ysgol Penglais. Ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o fandiau ysgol, fydd dim un gân sy'n atseinio'r Arctic Monkeys neu Guns 'n' Roses yn eu casgliad o ganeuon. Mae gan y band stormus Mellt set sy'n llawn bolltau trydanol o gerddoriaeth wyllt – tebyg iawn i'r band anhygoel, Cysgod Cyfarwydd.
Maen nhw'n gweithio ar hyn o bryd gydag un o enwogion y Sîn Roc Gymraeg, Mei Gwynedd (Beganifs / Big Leaves / Sibrydion / sawl sesiwn!).
Megis dechrau mae stori'r band hwn ac rydyn ni'n falch iawn o'i hadrodd.
Dolenni Perthnasol

















