Main content

Amartuvshin Enkhbat

Bariton o Mongolia, 29 Oed

Cefais fy ngeni yn Sukhbaatar ac astudiais ym Mhrifysgol Celfyddydau a Diwylliant Wladol, Ulan Bator. Rwyf wedi ennill nifer o wobrau, yn cynnwys yr ail wobr a gwobr y gwrandawyr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Tchaikovsky 2011; cydradd gyntaf yn Operalia 2012 a'r ail wobr a dwy wobr arbennig yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Francisco Viñas yn 2013.
Rwyf yn Brif Unawdydd Tŷ Opera Academaidd Gwladol Mongolia yn Ulan Bator, a chefais fy newis i fod yn Artist Anrhydeddus Mongolia pan oeddwn yn 24 oed.
Mae'r rhannau yr wyf wedi eu perfformio ym Mongolia yn cynnwys Escamillo, Morales Carmen; Tonio Pagliacci; Amonasro Aida; Count di Luna Il trovatore; Iago Otello; Renato Un ballo in maschera; Sharples Madama Butterfly; Scarpia Tosca; Marcello La bohème a phrif rannau Eugene Onegin, Aleko, Genghis Khan a Rigoletto. Rwyf wedi ymddangos yn rhyngwladol fel Gwestai Vedenetsky Sadko yn Krasnoyarsk ac fel Cownt Monterone Rigoletto yn Palau de les Arts Reina Sofia, Valencia, yn 2012. Hefyd, rwyf wedi canu mewn cyngherddau gala o gwmpas y byd, yn cynnwys Paris, Moscow, Efrog Newydd, Beijing, Seoul a Singapore. Rwyf yn edrych ymlaen at berfformio yn y Swistir a Kazakhstab a hefyd adref ym Mongolia.
Yn fy amser fy hun, rwyf yn mwynhau gwylio rasio ceffylau.