Main content

Sioned Gwen Davies

Mezzo soprano o Gymru, 30 oed

English

Astudiodd Sioned yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall a chwblhaodd ei hyfforddiant yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain.

Canodd Sioned yn broffesiynol am y tro cyntaf gydag Opera Gŵyl Glyndebourne fel rhan o Brosiect Jerwood yn 2012, lle perfformiodd ran Margarida (The Yellow Sofa). Dychwelodd i’r ŵyl yn 2014 i ddirprwyo ar gyfer rolau Olga (Eugene Onegin) ac Annina (La Traviata).

Perfformiodd Sioned ran Kate (The Pirates of Penzance) i Opera’r Alban yn 2013 ac yn sgil hynny cynigiwyd contract “Egin Artist” iddi gyda’r cwmni am dymor 2013/14 lle perfformiodd rannau’n cynnwys Eduige (Rodelinda) a’r Drydedd Wrach (Macbeth). Ers hynny mae hi wedi perfformio ar daith Uchafbwyntiau Opera o gwmpas yr Alban, Trydedd Dduwies y Coed (Rusalka) a Pitti-Sing (The Mikado), i gyd gydag Opera’r Alban.

Yn ddiweddar canodd yn Sbaen am y tro cyntaf gan chwarae rhan Olga (Eugene Onegin) i Opera Valladolid a bydd yn dychwelyd at Opera’r Alban yn 2018. Ar ôl Cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC bydd yn dechrau ymarfer gydag Opera Gŵyl Longborough yn rhan yr Ail Foneddiges (Die Zauberflöte).

Repertoire

Main prize repConcert 2
Crude furie degl’ orridi abissiSerseHandel
Give him this orchid… Flowers bring to every yearThe Rape of LucretiaBritten
Liebst du um SchönheitRückert-LiederMahler
Vous aimez le danger … Ah! Que j’aime les militairesLa Grande-Duchesse de GérolsteinOffenbach
Song prizeRecital
El vitoCanciones clásicas españolasObradors
La mi sola, LaureolaCanciones clásicas españolasObradors
Nana7 Canciones Populares Españolas No 5Falla
Polo7 Canciones Populares Españolas No 7Falla
WaltzerClara Schumann
LoreleiClara Schumann
Angels are the highest form of virtueCabaret SongsBolcom
AmorCabaret SongsBolcom