Ivan Thirion
Bariton o Wlad Belg, 27 oed
Ganwyd Ivan yng ngwlad Belg ac astudiodd yn y Conservatoire Brenhinol ym Mrwsel ac wedyn ym Mhrifysgol Gerddoriaeth Genefa.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn opera ar lwyfan yr Opéra Royal de Wallonie yn canu rhan Papageno yn Die Zauberflöte Mozart. Wedyn ymunodd â’r Ganolfan Genedlaethol i Gantorion Opera ym Marseille a chanu mewn nifer o theatrau yn Ffrainc, fel Montpellier yn rhan Figaro yn Le Nozze di Figaro, ac Avignon yn rhan Franck yn Die Fledermaus.
Mae’n brysur fel canwr cyngherddau a datgeiniad, ac yn mwynhau canu Lieder a chaneuon crefftus. Yn 2013 dyfarnwyd gwobr Wil Keune iddo “i ganwr ifanc â photensial gwirioneddol” yng Nghystadleuaeth Belvedere rhif 32 yn Amsterdam. Enillodd Ivan yr Ail Wobr yng Nghystadleuaeth Opera St Petersburg.
Am 2014-16, bu’n aelod o stiwdio opera ryngwladol cwmni opera Zurich, lle canodd rannau fel Ping (Turandot), Bello (La Fanciulla del West), Lakai (Ariadne auf Naxos), Rodomonte yn Orlando Paladino Haydn.
Mae ei berfformiadau gwadd diweddar ac i ddod yn cynnwys rôl yr Arglwydd Enrico Ashton yn Lucia di Lammermoor Donizetti yn yr Opéra de Liège, Bartolo yn Der Barbier von Sevilla für Kinder yng Ngŵyl Salzburg, taith gyda Rhaglen Ysgolorion Ifanc Gŵyl Salzburg i China, Serviteur ac Aubergiste yn L’Angedu Feu Prokofiev yn yr Opéra de Lyon, Belcore yn Opera Essen ac Oronte yn Médée Charpentier yn opera Zurich gyda William Christie.
Repertoire
| Main prize rep | Concert 2 | |
|---|---|---|
| Hai già vinta la causa! ... Vedrò mentr’io sospiro | Le nozze di Figaro | Mozart |
| Voici des roses | La damnation de Faust | Berlioz |
| Come Paride vezzoso | L’elisir d’amore | Donizetti |
| Gott, sei mir gnädig | Paulus | Mendelssohn |
| Song prize | Recital | |
|---|---|---|
| Der Soldat | Op 40 No 3 | Schumann |
| Es war ein König in Thule | S278/2 | Liszt |
| La mer est infinie | L'horizon chimérique No 1 | Fauré |
| Je me suis embarqué | L'horizon chimérique No 2 | Fauré |
| L’invitation au voyage | Duparc | |
| Le manoir de Rosemonde | Duparc |


