Anthony Clark Evans
Bariton o'r UDA, 32 oed
Yn ddiweddar cwblhaodd Anthony gyfnod o dair blynedd yn y Lyric Opera yng Nghanolfan Opera Ryan yn Chicago, lle gwnaeth ei berfformiad cyntaf yn rhan Montano [Otello]. Ef oedd Yamadori (a dirprwy Sharpless) [Madama Butterfly], Ceidwad y Carchar (a dirprwy Sacristan) [Tosca], y Gwas (a dirprwy’r Cownt) [Capriccio], yr Heliwr (a dirprwy’r Ciper) [Rusalka], Commissario (dirprwy’r Barwn a’r Marcwis) [La Traviata] a bu’n ddirprwy yn Don Giovanni, Wolfram yn Tannhäuser a Fiorello yn Il Barbière di Siviglia.
Gwna ei ymddangosiad cyntaf yn nhymor 2016/17 fel Sharpless [Madama Butterfly] gydag Opera San Francisco. Ac yn ddiweddarach bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda’r Metropolitan Opera fel yr Heliwr [Rusalka] tra’n dirprwyo Riccardo [I Puritani]. Y tymor cynt gwnaeth ymddangosiadau cyntaf gydag Opera San Diego fel Sharpless ac fel Marcello gyda’r Opera Theatre of Saint Louis.
Yn Lyric Opera, Chicago, creodd Anthony rôl Simon Thibault ym mherfformiad cyntaf erioed Bel Canto, addasiad o nofel hynod boblogaidd Ann Pratchett gan y cyfansoddwr Jimmy Lopez a’r dramodydd ac enillydd gwobr Pulitzer, Nilo Cruz.
Repertoire
| Main prize rep | Concert 1 | |
|---|---|---|
| L’orage s’est calmé ... O Nadir, tendre ami | Les pêcheurs des perles | Bizet |
| Wohl wusst’ ich hier sie im Gebet zu finden | Tannhäuser | Wagner |
| Si può? si può? Signore! | Pagliacci | Leoncavallo |
| Song prize | Recital | |
|---|---|---|
| Hotel | Banalités No 2 | Poulenc |
| Fagnes de Wallonie | Banalités No 3 | Poulenc |
| George | Cabaret Songs Volume 2 | Bolcom |
| Waldesgespräch | Liederkreis Op 39 No 3 | Schumann |
| Allerseelen | Op 10 No 8 | R Strauss |
| Main Prize | Final | |
|---|---|---|
| Or dove fuggo io mai? … Ah! per sempre | I puritani | Bellini |
| Wie Todesahnung … O du, mein holder Abendstern | Tannhäuser | Wagner |
| Si può? si può? Signore! | Pagliacci | Leoncavallo |


