Nico Darmanin
Tenor o Malta, 30 oed
Cefais fy ngeni ym Malta ac astudiais yn Llundain yn y Coleg Cerdd Brenhinol a'r Stiwdio Opera Genedlaethol. Rwyf yn un o Artistiaid Samling ac rwyf wedi cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda Juan Diego Flórez a Joyce DiDonato. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda'r Fonesig Kiri Te Kanawa a Syr Thomas Allen yn y Georg Solti Accademia, a gyda Mirella Freni ym Modena.
Yn nhymor 2013/14 bu i mi wneud dau ymddangosiad cyntaf - yn y Tŷ Opera Brenhinol fel Daniéli Les vêpres siciliennes a gydag Opera Vlaamse fel Tenor Eidalaidd Der Rosenkavalier, rhan y bu i mi ei berfformio hefyd yn Grand Théâtre de Luxembourg. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Almaviva Il barbiere di Siviglia gydag Opera Holland Park a Belfiore Il viaggio a Reims yng Ngŵyl Opera Rossini. Mae'r tymor hwn yn cynnwys Ramiro La Cenerentola (Opera Yr Alban); Ottavio Don Giovanni (Opera Vlaamse); Messiah Handel yn y Royal Festival Hall a Nawfed Symffoni Beethoven yn y Barbican.
Mewn cyngherddau mae fy repertoire yn cynnwys caneuon rhamantus ac operâu gan Rossini, Bellini, Donizetti, Tosti, Fauré a Debussy. Rwyf wedi recordio caneuon Massenet gyda Richard Bonynge ac On Shore and Sea gan Sullivan dan ei arweiniad.
Rwy’n mwynhau mynd ar gychod a snorclo pan gaf y cyfle ym Malta, ac rwyf wedi dechrau mwynhau golffio yn fawr iawn, a choginio i deulu a ffrindiau.

