Main content

Jongmin Park

Bâs o Dde Corea, 28 oed

Cefais fy ngeni yn Seoul ac astudiais ganu ym Mhrifysgol Celfyddydau Genedlaethol Corea. Ymunais ag Academi La Scala dan adain Mirella Freni, Luciana Serra, Luigi Alva a Renato Bruson. Mae'r gwobrau yr wyf wedi eu hennill yn cynnwys Cystadleuaeth Ryngwladol Tchaikovsky, a gwobr Brigit Nilsson Wagner yn Operalia, yn 2011.
Yn ystod tymor 2010-2013, roeddwn yn aelod o ensemble Opera Gwladol Hamburg, yn canu rhannau megis Sarastro Die Zauberflöte, Colline La bohème a Sparafucile Rigoletto. Y tymor canlynol, ymunais ag Opera Gwladol Fienna a pherfformiais Sir Giorgio I puritani, Gremin Eugene Onegin, Basilio Il barbiere di Siviglia, Bartolo Le nozze di Figaro, Grenvil La traviata a Truffaldino Ariadne auf Naxos. Yn 2014, ymddangosais am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol fel Colline, ac ymddangosais yn y BBC Proms a Gŵyl Dinas Llundain.
Mae perfformiadau cyngerdd wedi cynnwys Nawfed Symffoni Beethoven gyda'r LSO, Vesperae solennes de Confessore Mozart yn La Scala, Requiem Verdi yn Seoul a Stabat Mater Rossini yn Tokyo. Rwyf wedi perfformio datganiadau unigol ym Munich a Frankfurt a byddaf yn rhoi datganiad yn Musikverein yn Fienna eleni. Y flwyddyn nesaf, byddaf yn perfformio Stabat Mater Dvořák ym Mhrâg.
Rwyf yn mwynhau chwarae pêl-droed a gwylio ffilmiau.