Main content

John Gilhooly

Rheithgor Gwobr Cân BBC Canwr y Byd

Yn enedigol o Iwerddon, daeth John Gilhooly yn Gyfarwyddwr Artistig a Gweithredol Neuadd Wigmore, Llundain yn 32 oed ar ddechrau 2005, gan olygu mai ef oedd yr arweinydd ieuengaf ar un o neuaddau cyngerdd mawr y byd. Bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol Neuadd Wigmore es mis Ionawr 2001, a rhoddir clod iddo am oruchwylio gweddnewidiad y Neuadd yn artistig, yn ariannol ac yn weinyddol dros y pedair blynedd ar ddeg diwethaf. Ef a sefydlodd y label recordiau Wigmore Hall Live, sydd ag enw da iawn iddo, ac a enwyd yn label recordiau’r flwyddyn gan The Gramophone yn 2011.

Yng Ngorffennaf 2010, penodwyd John Gilhooly yn Gadeirydd y Royal Philharmonic Society, ac arweiniodd ddathliadau dau can mlwyddiant y gymdeithas gydol 2013. Derbyniodd Gymrodoriaeth Er Anrhydedd gan yr Academi Gerdd Frenhinol (2006), Aelodaeth er Anrhydedd o’r Coleg Cerdd Brenhinol (2012) ac yn 2013 dyfarnwyd OBE iddo gan y Frenhines Elizabeth II, am ei wasanaeth i gerddoriaeth.

Tenor yw John a bu’n astudio’r llais yng Ngholeg Cerdd Dinas Dulyn ac Ysgol Gerdd Leinster. Bydd yn ymddangos yn rheolaidd yn rhestr yr Evening Standard o'r bobl mwyaf dylanwadol yn Llundain.