Main content

Aviva Fortunata

Soprano o Canada, 27 oed

Cefais fy ngeni yn Calgary, Alberta, gan astudio ym Mhrifysgol Toronto ac ar hyn o bryd rwyf yn aelod o'r Stiwdio Ensemble gyda Chwmni Opera Canada. Mae fy rhannau diweddar yn cynnwys Berta Barbwr Seville, Helmwige Die Walküre a Fiordiligi ym mherfformiad y Stiwdio Ensemble o Così fan tutte, rhan y bu i mi ei berfformio hefyd gyda Chwmni Opera Canada. Mae rhannau eraill yr wyf wedi eu perfformio gyda Chwmni Opera Canada yn cynnwys Alice Ford Falstaff, Donna Anna Don Giovanni, ac Ellen Orford Peter Grimes. Rwyf hefyd wedi perfformio Desdemona Otello a'r Ddynes gyda'r Bocs Cacennau yng Ngherdyn Post o Morocco gyda Rhaglen Opera Merola Opera San Francisco; Donna Anna gyda Grŵp Opera Cyngerdd, Canolfan Astudiaethau Opera yn yr Eidal a Phrifysgol Toronto; a Gloria Poulenc gyda Cherddorfa Ffilharmonig Buffalo.

Byddaf yn parhau i ganu gyda'r Stiwdio Ensemble yn nhymor 2015/21016, ble byddaf yn perfformio Iarlles Le nozze di Figaro gyda'r Ensemble ac fel dirprwy gyda Chwmni Opera Canada, ac Anna Maometto Secondo.

Rwyf yn mwynhau gwylio rasys sglefrolio, diwylliant pop, pwyth croes a chelfyddyd steilio gwallt traddodiadol.