Ryan Speedo Green
Bâs-bariton, o'r UDA, 29 oed
Rwyf yn frodor o Suffolk, Virginia ac astudiais ym Mhrifysgol Talaith Florida ac Ysgol Gerdd Hartt. Mae'r gwobrau yr wyf wedi'u hennill yn cynnwys y wobr gyntaf yn Rowndiau Terfynol Mawreddog Cenedlaethol Clyweliadau Cyngor Cenedlaethol Opera Metropolitan 2011. Yn 2014 derbyniais Wobr Sefydliad George London, gwobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Mynegai Opera, grant Annenberg, gwobr gyntaf yng nghystadleuaeth Sefydliad Gerda Lissner a Grantiau Richard a Sara Tucker gan Sefydliad Richard Tucker.
Ymddangosais am y tro cyntaf ar lwyfan y Met yn nhymor 2012/13 fel Mandarin Turandot, ac Ail Farchog Parsifal, a bu i mi gwblhau Rhaglen Ddatblygu Artistiaid Ifanc Lindemann yn 2014. Mae uchafbwyntiau operatig eraill yn cynnwys Commendatore Don Giovanni gydag Ysgol Juilliard, Colline La bohème gydag Opera Central City a Don Magnifico La Cenerentola gydag Opera Colorado.
Yn 2014 ymunais ag ensemble Wiener Staatsoper ensemble, ble'r oedd fy rhannau yn cynnwys Sparafucile Rigoletto, Basilio Il barbiere di Siviglia, a Brenin Aida. Bu i mi hefyd ymddangos fel Rambo yng nghynhyrchiad y Met o The Death of Klinghoffer.
Mae gwaith cyngerdd yn cynnwys yr unawd fas yn Requiem Verdi yn Hartford a Nawfed Symffoni Beethoven gyda Symffoni Florida.
Rwyf yn mwynhau dysgu am draddodiadau a bwydydd gwahanol wledydd. Rwyf hefyd yn hoffi pêl-droed Americanaidd, pêl-rwyd a chodi pwysau. Gyda llaw - fy enw canol yw Speedo, wir i chi.

