Main content

Ffilm 'Mr Burton' ar un o restrau byrion BAFTA 2026

Mae'r ffilm 'Mr Burton' yn olrhain hanes cynnar y seren o Bontrhydyfen, Richard Burton. Mae hefyd yn delio â dylanwad ei athro, Phillip Burton, ar ei yrfa.

Bydd yn ymddangos ar restr fer gwobr 'Outstanding British Film' yng ngwobrau BAFTA 2026, gan ymuno â ffilmiau fel Hamnet, 28 Years Later a Bridget Jones: Mad About The Boy.

Hannah Thomas, un o'r cynhyrchwyr, fu'n sgwrsio â Gwenllian Grigg.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau