Main content
Nic Parry
Shân Cothi yn holi'r sylwebydd, cyflwynydd a chyn-farnwr Nic Parry am ei atgofion cyntaf. Shân Cothi interviews presenter and former judge Nic Parry about his first memories.
Y sylwebydd, cyflwynydd a chyn-farnwr Nic Parry sy’n sgwrsio gyda Shân Cothi am ei atgofion cyntaf: ceisio dianc i’r ffordd dan giât gyda’i efell, Wil; geni ei chwaer fach, Angharad; mynd i’r ysgol yn drewi fel defaid; yr arogl o baco ar ei dad; ei swydd gyntaf fel coedwigwr; y siom o beidio cael ei ddewis i chwarae ar dîm pêl-droed yr ysgol gynradd; prynu sengl ‘Without You’ gan Harry Nilsson ar drip ysgol i Stratford-upon-Avon. Darlledwyd yn wreiddiol ar raglen Fore Cothi, BBC Radio Cymru, fis Tachwedd 2025.
