Main content
Marlyn Samuel
Shân Cothi yn holi yr awdur Marlyn Samuel am ei hatgofion cyntaf. Shân Cothi interviews author Marlyn Samuel about her first memories.
Yr awdures a ffrind i Radio Cymru, Marlyn Samuel, sy’n sgwrsio gyda Shân Cothi am ei hatgofion cyntaf: chwarae gyda’i chyfnither yn nhŷ Nain a Daid yn Sir Fôn; gofyn am chwaer fach gan ei mam; cynhadledd cadw gwenyn yn cael ei chynnal gan ei Nain a Daid; arogl polis a thamprwydd Capel Ainon yn Llantrisant wrth fynd i’r Ysgol Sul bob wythnos; y siom gyntaf o golli allan ar docyn i weld pantomeim ym Mangor yn ddeg oed; a chael ei hysbrydoli gan lyfrau gwahanol yn ei phlentyndod. Hefyd, trafod ei llyfr Yr Ail Briodas. Darlledwyd yn wreiddiol ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ym mis Tachwedd 2025.
