Llythyr Pennal a Cefn Caer
Iolo Williams sydd yn cyd-gerdded rhannau o’r hen lôn Rufeinig, Sarn Helen gyda’r archeolegydd Rhys Mwyn.
Mae'r daith heddiw yn mynd â ni ar hyd Sarn Helen tuag at Cefn Caer, Pennal.
Yn cyd-gerdded gydag Iolo a Rhys mae Math Williams, daearegwr, Manon Steffan Ross, awdures a dramodydd sydd â'i gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal yma ac Alice Briggs sydd yn artist a churadur sydd yn gweithio gyda phrosiect Tir Canol.
Yn y darn bach yma mae Iolo, Rhys a Manon yn trafod Llythyr Pennal. Ar 31 Mawrth 1406, anfonodd Owain Glyndŵr lythyr, sef Llythyr Pennal fel y daethpwyd i’w adnabod, at Charles VI, Brenin Ffrainc, yn gofyn iddo am ei gymorth â’i wrthryfel yn erbyn y Saeson. Ac mae sôn mai yn y safle yma ble mae'r Gaer Rufeinig yn sefyll yr ysgrifennodd y llythyr.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Iolo Williams - Sarn Helen
![]()
Gwlân llachar i'r Rhufeiniaid.
Hyd: 04:15
![]()
Seidr a'r Rhufeiniaid
Hyd: 11:50
![]()
Parch i'r coed
Hyd: 05:42
![]()
Sarn Helen yn ysbrydoli artistiaid
Hyd: 03:50





