Dwy gêm anferth i Abertawe, Lawlor yn denu sylw a rhyddhad Wilkinson
Mae'r criw yn dechrau ofni'r gwaethaf os na ddaw rhediad Abertawe o beidio ennill i ben dros y ddwy gêm gartref nesaf.
Gemau all ddiffinio gweddill y tymor. Dyna sut mae'r criw yn gweld dwy gêm nesaf Abertawe - y ddwy adref ac yn erbyn timau o'u cwmpas ger gwaelodion y Bencampwriaeth. A tydi'r arwyddion ddim yn wych ar ôl i'r Elyrch ildio mantais o ddwy gôl wrth golli yn West Brom.
Parhau i godi'r tabl mae Wrecsam, gan ddangos yr "ysbryd a'r cymeriad" i sgorio gôl hwyr i osgoi colli yn erbyn Blackburn. A daeth rhediad heb ennill Cymru i ben drwy guro'r Swistir - buddugoliaeth gyntaf tîm Rhian Wilkinson yn 2025.
Ac ar ôl cyfweliad hynod onest a chignoeth ar raglen Sgwrs Dal y Lloer, mae 'na lwyth o gariad tuag at Mal.
More episodes
Podcast
![]()
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.

