Streeting i aros yn ffyddlon?
Cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod y gwrthdaro yn rhengoedd y blaid Lafur. Vaughan and Richard is joined by Betsan Powys.
Ar ôl i rai o gefnogwyr Syr Keir Starmer ddweud wrth y BBC bod Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Wes Streeting am herio'r prif weinidog mae Vaughan a Richard yn ceisio dirnad beth yn union sy'n mynd ymlaen yn rhengoedd y blaid Lafur. Mae cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys yn ymuno â'r ddau i ddadansoddi’r cyfan.
Mae'r cyn newyddiadurwr, ac ymgeisydd y blaid Werdd yn isetholiad Caerffili, Gareth Hughes yn trafod dylanwad arweinydd newydd y blaid Zack Polanski ac yn trafod gobeithio'n y blaid ar gyfer etholiad y Senedd blwyddyn nesaf.
Cofiwch fod modd i chi gysylltu â gofyn cwestiwn i Vaughan a Richard trwy e-bostio [email protected]
Rhagor o benodau
Podlediad
![]()
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.

