Main content

Iaith y Rhos

Dr Sara Louise Wheeler - Bardd, llenor ac yn artist llawrydd.

Fe ddaw Sara’n wreiddiol o Wrecsam, ac mae hi’n falch iawn o’i acen Rhos. Cafodd ei magu ger coedwig Erddig ar aelwyd ddwyieithog, teulu ei Mam yn hanu’n wreiddiol o’r de, a’I Thad o Rosllannerchrugog, roedd o a’i frodyr yn gweithio yn John Summers, y diwydiant haearn a dur yn Shotton. Aelwyd cwbl Gymreig oedd hon, er fel oedd ei Nain a’i Anti Gwladys yn hoff o ddweud “nid Cymraeg iawn chwaith”! (cyhoeddodd Sara gerdd yng nghylchgrawn Barddas am hyn yn 2020 ac mae’r gerdd ar gael yn ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth ‘Rwdlan a Bwhwman’, ac ar gael i’w lawr lwytho am ddim fel PDF o wefan Gwasg y Gororau.
Mae gan Sara gyflwr genetig prin, fe ddaw o deulu ei thaid, sef Syndrom Waardenburg Math 1. Mae 2 ‘gamgymeriad’ ar y gennyn ‘Pax 3’ yn arwain at ddadbigmentiad yn y croen, gwallt, llygaid a chochlea, ac sydd yn golygu ei bod yn colli clyw. Mae ei chyflwr a’r profiadau mae hi wedi’u cael yn rhai heriol ac fe gafodd gyfnod o iselder dwys ac mae hi’n gobeithio y bydd siarad yn agored am hyn yn gymorth i eraill.

Mae hi’n Fardd ac yn llenor ac yn artist llawrydd. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu drama gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sef y ‘Y Dywysoges Arian’, sy’n mynd i’r afael â chymeriad sy’n dysgu byw yn ei chroen wrth i’r croen hwnnw drawsffurfio. Bydd yr Opera Budrchwilod yn cyfuno elfennau o dechnegau theatr glywedol a byddar.
Mae hi hefyd wrthi’n sgwennu llawer o gerddi am ei chyflwr ac mae hi’n gobeithio paratoi cyfrol newydd o farddoniaeth o’r enw ‘Y Dywysoges Arian’.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau