
Cân ysgafn: Torheulo
Cân ysgafn, Torheulo, gan Gruffudd Owen.
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Tan ar bob wyneb, tan ar bob gwar.
Tan breichiau ffarmwr, tan crysau sgwâr.
Tan! Tan! Tan! Tan!
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Mae bywyd dinesig mor welw a phrudd
fe lechaf mewn cysgodion hyd strydedd llwyd Caerdydd.
Hiraethaf am yr heulwen mewn swyddfa gaeth
a’m breichiau di-fysyls yn wyn fel llaeth...
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Tan dwylo rhofiau, tan bochau coch,
Tan John ac Alun, tan Abersoch.
Tan! Tan! Tan! Tan!
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Erith, Neigwl, ap Dafydd a Jôs
yn yr haul yn lardio o fore gwyn tan nos.
Pysgota, cario cwrw, torri coed a thorri mawn,
fe daniant dros Gymru fel beirdd go iawn!
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Tan gwerin datws, tan torri chwys
tan torchi llewys, tan siâp dy grys!
Tan! Tan! Tan! Tan!
Beth am fynnu tan fel tan Pen Llŷn?
Mi fûm i ryw dro yn hogyn o Lŷn
yn iach a brown fel cneuen, ond bellach rydwi’n ddyn
dinesig, rhwystredig ac heb ddewis erbyn hyn
ond bwcio gwely haul (fel gwna Ceri Wyn.)
Beth am ffugio tan fel tan pen Llŷn?
Beth am ffugio tan fel tan pen Llŷn?
Tan yr annonest – tan ddaw o sprê.
Tan tanjarinaidd – tan Santropê!
Tan! Tan! Tan! Tan!
Beth am ffugio tan fel tan pen Llŷn?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29




