Main content

Arwr - cerdd gan Elin Haf

Cerdd gan Elin Haf, Hwlffordd, yn arbennig ar gyfer rhaglen Ar Y Marc.

Dwy funud ar ol gem eithriadol o dynn,
Unwaith eto Cymru annwyl rydyn ni un gol yn brin.
Y sgoriwr cyntaf oedd Gareth Bale, wedyn Vokes a Robson-Kanu,
Ond fe sgoriodd Vardy, Rooney a Sturridge dair gol iddyn nhw.

Roedd y dagrau nawr yn llifo o gwmpas y stadiwm Wembley,
Ond roedd holl yr gefnogwyr Cymreig yn dal i gymhelu.
O Hennessee i Williams o gwmpas y carped gwyrdd,
Fe ymdrechon nhw i sgorio cymaint o wahanol ffyrdd.

Ond roedd amser yn rhedeg i ffwrdd, fel cath yn dianc o gi,
Ond roedd dal gena’i ffydd, un gol oedd angen arnom ni.
Roedd gem gyfartal yn ganlyniad gwych, ond roedden ni eisiau mwy,
Byddai un gol fach arall yn sicr i’n rhoi ni trwy!

Ar ol deuddeg naw munud o amser ddi-sgor ychwanegol,
Roedd ciciau nerfus o’r smotyn wyn yn edrych yn debygol.
Byddai colli ar giciau o’r smotyn yn dorcalonnus wir,
Yn enwedig ar ol i’r bechgyn frwydro’n ddewr am mor hir.

Roedd y bechgyn nawr yn blino, ac roedd rhai yn dioddef o “cramp”.
Byddai ennill yn yr amodau hyn yn siwr yn dipyn o gamp.
Roedd angen ffeindio rhywbeth, rhyw ddarn bychan o hud,
I sicrhau ein lle yn ffeinal Cwpan Y Byd.

Chwythodd y dyfarnwr y chwiban a wnaeth adleisio drwy’r adeilad,
Roedd gan Gymru gornel heb unrhyw amser on 37 eiliad.
Roedd pawb o’r tim yn y bocs, o’r golwr mawr i’r blaenwyr,
Ac roedd Ledley yn sefyll yn y gornel ar bwys ein cefnogwyr.

Fe giciodd y bel i mewn i gwrdd a pen Sais,
Fe cwympodd i chwaraewr Cymru yng nghanol y maes.
SHOOT! Roedd cefnogwyr yn uchel eu cloch at Joe Ledley,
Ond yn lle fe basiodd i’r chwith at draed Ramsey.

Estynodd ei goes dde yn ol a saethu’r bel hyll,
Fe hedfanodd drwy’r awyr fell bwled allan o ddryll.
Am eiliad man, roedd tawelwch hollol, ond am swn calonnau’n curo,
Yna “whoosh” y rhwyd wrth i’r bel ei bwrw, a bom o swn yn ffrwydro.

Fe orweddodd ar y llawr wrth i’r cyd-chwaraewyr neidio ar ei ben,
A roeddwn i’n teimlo fel fy mod i wedi mynd i’r nen.
Roedd hapusrwydd a syndod ar ein wynebau ni i gyd,
Byddai gol mor dda a hynna’n cael ei ddangos o gwmpas y byd.

Gorffennodd y dyfarnwr y gem gyda sgrech o’I chwiban aur,
Roedden I wedi maeddu y Saeson, fe adawon nhw heb yr un gair.
“Don’t Take Me Home” oedd geiriau can pob cefnogwr,
Ac fe ganwn “We Love Ramsey” at y newydd arwr.

Elin Haf

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o