Main content

Cân Ysgafn: Y Gorllewin Gwyllt

Aron Prichard yn darllen cerdd Owain Rhys.

Dai Jones a gawsai’r syniad, nôl Breitbart yr ham-bôn –

rhaid cadw Ceredigion yn bur rhag pobol Môn.

Gŵr busnes, bach o seren, yn trydar dim ond gwir

am stopio’r holl fewnfudwyr rhag croesi ffiniau’r sir.

Dechreuodd gynnal ralis, a dweud hen bethau cas

am Gogs yn gyffredinol, beth bynnag fo eu tras.

Yr ymgyrch ddenodd sylw – “Make Cardis great again!”

Sefydlwyd eu pencadlys yng nghaffi’r Llyfrgell Gen,

ac yno rhwng brechdanau, cacs cri a mygs o de,

aeth hanes Ceredigion yn feiral ar y we.

Addawyd adeiladu wal fawr o’i hamgylch hi

o ochrau Aberdyfi i Gwbert-by-the-Sea,

creu pasborts, stamps a fisas i stopio pawb ddod mewn,

carcharu drwgweithredwyr na wyddant beth yw “ewn”.

Ond yna sylweddolwyd bod cost i hyn i gyd,

fod ffermwyr Ceredigion, ’rôl Brecsit, heb ddim byd.

Gwrthododd Gogs â thalu – all neb eu beio nhw,

ac yna lansiodd Tanygroes a Chrannog counter-coup.

Dai Jones sydd nawr mewn carchar, a phob-man ond am Plwmp

’di werthu mewn takeover i foi o’r enw Trwmp.

Owain Rhys - 10 pwynt
(Aron Prichard yn darllen)

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau