Main content

"Brud Al a Dainty" gan Rhys Iorwerth

Cerdd i Aled a'i hwch Dainty cyn Sioe Llanelwedd

Mae achos gan bob mochyn
bob tro i ddrwgdybio dyn,
ond ein moch sy’n fudan mwy
o fwd Môn i fwd Mynwy:
pam yn Llanelwedd, meddwch,
dewis hwn i dywys hwch?

Al Huws? Oes ganddo leisans?
Yna’r jôc: oes unrhyw jans
y daw i ben â’r da byw?
Boi radio’r beret ydyw!
Bydd Dainty ni’n ei Hannwn
wrth ddilyn y niws-ddyn hwn.

Onid Aled yn rhedeg
ar ei hôl yn tuchan rheg
ydi’r un olygfa drom
(un wir glasur) a glywsom?
Hwn yn hastio’n anystwyth,
hi’n taro rhech fel Twrch Trwyth?

Ac er golchi’r tethi twt
yn ffeind, er mai cynffondwt
ydi Dainty cyn ei dydd,
yn “waw” o binc o’r newydd,
draw ar y llain, arwain hon
i’r manure – y mae’n wirion.

Iddi ei thwlc fydd ei thŷ;
rwyt Al yn un o’r teulu
ond am ei cherdded wedyn?
Yn syber ddiawl, sobra ddyn –
yn ynfyd mae sawl cenfaint
yn eu dom gwlad am gael haint.

Huwsi a Dainty eich dau:
imi heddiw rhaid maddau
ond proffwydaf, ofnaf i
y baeddwch, ac y bydd-hi
heb os (er teimlo drosoch)
ar hyd y maes yn draed moch...

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud