Cerdd i Tudur Owen gan ddyn blin o Ben Llŷn
Bardd y Mis, Anni Llŷn, yn darllen cerdd gan un o wrandawyr Tudur Owen...
Clywaf lais ar y radio’n cadw twrw.
Dyn, fel rwdlyn yn ei gwrw,
yn berwi am wi-fi mewn acen Pen Llŷn,
be bynnag’n y byd ydi hwnnw.
Clywaf lais ar y radio’n fy ngwylltio.
Pwy ydi’r boi ’ma sy’n mwydro?
Yn berwi am bluetooth mewn acen Pen Llŷn,
’sa well gen i wrando ar ei fêt o.
Clywaf lais ar y radio sy’n corddi
rhyw gasineb gwyllt yn fy mol i.
Mae o’n berwi am gigabytes mewn acen Pen Llŷn.
Mae’ nwylo yn ysu am ei grogi.
Fedraim diodda’r boi yn bregliach,
Yn meddwl bod o’n ddoniol, y bwbach.
Yn pardduo acen pobol Pen Llŷn,
Gas gen i wrando ar y sothach.
Ond wrth fystachu i’w ddiffodd dwi’n rhewi,
ac yn sylweddoli’n reit handi,
gan ddeud wrth fy hun yn fy acen Pen Llŷn,
fod hwn yn Pen Llŷn wannabe.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni BBC Radio Cymru.
Mwy o glipiau Tudur Owen
![]()
Y Dorf Yn Ffrainc
Hyd: 01:18
![]()
Pa iaith 'dach chi'n ei siarad efo cŵn?
Hyd: 01:03






