Main content
Y CWPS: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Cadw tŷ
Tŷ (Yr Ysgwrn)
Os tyner yw’r lleuad heno,
nid llai, nid llai yw brifo
nosau swil hen noswylio;
fe aeth blynyddoedd yn yfflon,
ond ym mwsog y galon
y mae hiraeth ym Meirion;
hiraeth yw hwnnw o’r newydd
yn y gwawrio tragywydd,
yn y maen hwnt i’r mynydd;
ond ym Meirion mae inni’r muriau:
tŷ diriaethol i’r dagrau
a gwaed oer hen gadeiriau.
Dafydd John Pritchard
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 18/05/2014 - 'Y Cwps yn erbyn Y FForddolion
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29









