Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

Y FFORDDOLION: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Cadw tŷ

Y Talwrn

Available for over a year

(bwthyn yn Sain Ffagan) Mae’r drws ar agor ac yn lledu’n wên at wres y tân, at hwyl, at gwmni clên, at sglein y derw, at y cerrig glas, at olion gŵyl a gwaith y ffedog fras, hyd at y golch mewn twbyn ar y llawr, ac at yr heyrn wrth droed y simne fawr. Tu ôl i’r pared, y mae gwely clyd, y matras wedi’i droi, yn starts i gyd. Mae’n oer, fel ddoe ac echdoe, dan y plu a bydd y cwrlid, ’fory, fel y bu, am fod y diwrnod, wedi’r holl lanhau, yn troi tua thre’ ar ôl yr oriau cau. Mari Lisa 9

Programme Website
More episodes