Main content

Cân Ysgafn: Y Daith Ddirgel

Ar wyliau, aeth llanciau Llanrwst a’r cyffiniau
Mewn bws ‘Teithiau Dirgel y Ddraig’,
Gan wisgo’u siec-grysau a’u ‘corduroys’ gorau,
Yn barod i chwilio am wraig.
“Fe fyddai’n braf treulio,” medd Ted, “ddyddiau yno,
Er mwyn medru ffeindio fy mrân.”
“Ddim hirach nag wythnos, gobeithio,” Medd Ambros,
“Does gen i ddim ond un trôns glân.”
“A gaf i awgrymu,” medd Bob Bwlch y Beudy,
“Ein bod ni’n rhoi cynnig bob un,
Ar geisio dyfalu ’mha le wnawn ddiweddu.”
Roedd pawb ar y bws yn gytûn.
Aeth pob un llanc ati, yn ei dro i enwi.
A betio a wnaethant yn ffri.
Wrth lwc yr oedd Idwal ’di pacio cap stabal,
A rhoes pawb eu pres ynddi hi.
Ac ar ôl breuddwydio am ffyrdd fedrant wario
Y wobr ariannol ‘n’yr het,
Roedd pob un mewn syfrdan, o gyrraedd eu cyrchfan,
Mai’r gyrrwr enillodd y bet.

Gwenno Davies
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

55 eiliad