Episode details

Available for over a year
Pennill Ymson mewn Parlwr Tatŵ yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg. Catherine fu’r gynta i mi’i sgythru arno a’i chwalu - er mwyn rhoi Anne odano; ’mhen blwyddyn roedd ’nôl... i mi sgythru Jane, ac yna Anne arall, ar ei floneg hen; y nesa’ oedd Catherine Howerd - rhag drysu, gan mai Cath oedd y gynta’ i’w chrafu a’i chwalu, a rwan mae o am newid yr Howerd yn Parr – ond does ’na’r un mymryn o’i din o yn sbâr. Eifion Lloyd Jones 9.5
Programme Website