Cân Ysgafn: Y Clwb.
Y Clwb
[o Lyfr Du Caerfyrddin]
“Pa ŵr yw’r Porthor?” “Glewlwyd Gafaelfawr,
Pen bownsar Cymru. Rwy’n filain, ac enfawr.
Pa ŵr sy’n gofyn?” “Wel, fi, Arthur Frenin,
Nawr agor y drws ‘ma, ma’n llwnc i fel corcyn.”
“Na, nefar, byth bythoedd; Pendragon neu beidio
Dos i rywle arall – ti ‘di cael dy banio.”
“Fy banio! Ti’n jocan! Ond dwi’n adnabyddus,
Enwocach na Gandhi, Madonna, Twm Morys.
Dwi wastad ar Heno a Radio Cymru,
Dwi’n nabod Huw Stephens, a Caryl Parry.
Rho un cyfle arall i arwr edifar:
Dwi’n addo bihafio a bod yn foesgar.”
“No wê. Y tro dwetha mi ddaliais ti’n snortian
A dangos Caledfwlch i’r barmed fach, druan.
Na – chei di’m dod fewn – dim gobaith caneri.
‘Da ni’m isio dy deip di. Mae hwn yn lle classy.”
“Os felly mae’i deall hi, y llabwst o asyn,
Jyst dere fan hyn ac fe chwala’i di’r pwr[...]
Ysywaeth, fan hyn daw’r llawysgrif i’w therfyn
Er dirfawr ryddhad i’r cynhyrchydd a’r meuryn.
Geraint Williams – Y Cŵps
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 28/07/2013
![]()
Pennill Ymson wrth agor post neu ebyst.
Hyd: 00:21
![]()
Telyneg neu Soned: Plygu.
Hyd: 00:27
![]()
Telyneg neu Soned: Plygu.
Hyd: 01:04
![]()
Englyn i unrhyw gêm plant.
Hyd: 00:16
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







