Cân Ysgafn: Yr Ymweliad.
Cân Ysgafn: Yr Ymweliad.
„Aliens m’yn diawl”, gwaeddodd Idwal, wrth faglu i far y Llew Gwyn,
„Di glanio yn safle’r anabl, mae’r ddau ar eu ffordd i’r fan hyn”.
Y wich o'r hen ddrws derw dwbl a fferodd fêr esgyrn bob dyn,
Ond roedd Idwal yn rong wedi'r cwbl,oherwydd d'oedd yno ond un.
Yr ias yn 'Y Llew' oedd yn ingol, llysnafodd i mewn yn ddi-hid
A gofyn i bawb yn bresennol "Be gym'rwch i'w yfed i gyd?"
Ysgwydwyd y lle gan fonllefion, croesawyd yr Eliyn i'w plith,
A hwnnw'n rhoi diodydd i'r ffyddlon a'n rhannu sigars rif y gwlith.
"Gylybygylyrg yw fy enw, rwy'n Zyth o fydysawd Gylog
Mae'n anodd i'w ddweud pan ti'n feddw, ac felly, jesd galwch fi'n Zog"
Pen dim fe ledaenodd y stori fel feirws eithriadol o chwim
"Gylybygylyrg sydd yn talu!". "Mae pob un diferyn am ddim!".
Ni welwyd eirioed y fath fwrlwm rhwng muriau profiadol 'Y Weit'
A dyma'r tro cyntaf erstalwm i'r sabath fynd heibio heb ffeit.
Nos Iau, roedd pob pwmp wedi sychu.Dim deigryn o êl yn y lle
Aeth Zog draw at Morus i dalu, a'r barman ddywedodd "O..o..c..ê..ê.ê..ê,
"Dwy fil, pedwar cant a dwy geiniog!" "I'r dim.Cadwa'r newid" medd Zog
Gan estyn rhyw bishyn bach sgleiniog, a dweud "Dyna chdi. Pedair Glog"
Wel, diolch i Forus 'Weit Leion' ni welwn fyth eto'r un Zyth
Aeth Gylybygylyrg efo'r afon, a baniodd bob Eliyn am byth
Jôs
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 21/07/2013
![]()
Ateb llinell ar y pryd:
Hyd: 00:04
![]()
Pennill Ymson wrth fynd mas â'r bin sbwriel.
Hyd: 00:08
![]()
Cywydd yn estyn gwahoddiad.
Hyd: 00:37
![]()
Englyn: Llew neu Llewod.
Hyd: 00:28
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







