Main content
Cerdd Rydd: Digon
Cerdd Rydd: Digon
(yng ngeiriau Leah)
“Byth eto!”
y llais lluddedig,
y llygaid trwm
a’r wên wan
yn syllu ar grud llawn
o ddeg pwys bodlon Ynyr.
“Pam?”
y llais lleddf,
y llygaid llaith
a’r wyneb gwelw
yn syllu ar ystafell lawn
o boen gwag colli Lleucu.
“Diolch.”
y llais llariaidd,
y llygaid mwyn
a’r goflaid dyner
yn syllu ar wên ddireidus Rhys,
y cyw melyn ola’.
Eifion Lloyd Jones
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 30/06/2013
![]()
Trydargerdd: Yr hyn a gyflawnais heddiw.
Hyd: 00:09
![]()
Englyn ar y pryd: Priodas.
Hyd: 00:13
![]()
Pennill Ymson mewn canolfan alwadau.
Hyd: 00:31
![]()
Cerdd Rydd: Digon.
Hyd: 00:33
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







