Main content
Cerdd rydd: Gwasanaeth
Yn y cefndir,
mae islais
ein parhad
yn suo’r diwrnod ar ei hyd.
A’r siarad wast
rhwng rhythmau canu gwlad
yn nodau’n drymio
ein bodolaeth glyd .
Llais i’n cenedl
fechan
lle bu’r chwyldro gynt.
Mae’r donfedd ar drai ,
a’n geiriau’n troelli’n fud
yn y pedwar gwynt.
Nia Môn
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 23/06/2013
![]()
Trydargerdd: Neges yn hyrwyddo ymgyrch
Hyd: 00:12
![]()
Cân Ysgafn: Y stafell sbar
Hyd: 02:50
![]()
Pennill Ymson mewn arhosfan
Hyd: 00:09
![]()
Englyn ar y pryd: Llyfrgell.
Hyd: 00:09







