
Olwen Davies - Cyfoeth Tlodi
Mae hanes Olwen Davies yn un rhyfeddol. Dyma gipolwg o brofiadau a thlodi y tridegau trwy lygaid plentyn yn tyfu i fyny yn Llanberis.
Holi Olwen Davies:
Beth yw eich hanes chi Olwen?
Cefais i'n addysgu yn Ysgol Brynrefail ac yna ymlaen i Goleg y Brifysgol ym Mangor. Rwyf wedi ymddeol yn awr ar ôl dysgu am 38 o flynyddoedd.
Beth yw pwnc eich stori?
Mae fy stori yn sôn am fy mhlentyndod cynnar ar ôl marwolaeth fy mam a thlodi'r tridegau.
Pam wnaethoch chi benderfynu cyfleu hyn yn eich stori ddigidol?
Roeddwn yn meddwl fod yr hanes yn 'wahanol' ac roeddwn i am i bobl wybod sut oedd petha' pan o'n i'n blentyn.
Sut aeth pethau yn y gweithdy?
Yr oeddwn yn hollol anwybodus a heb gallu technegol. Bu'n rhaid i mi gael cymorth bob cam o'r ffordd - i greu sgript ac i lunio'r stori ar y cyfrifiadur.
Serch hynny, fe fwynheuais y profiad yn arw, yn enwedig y cydweithrediad amyneddgar gan bawb.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
![]()
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
![]()
Shirley G Williams - Seren Wîb
Duration: 01:11
![]()
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
![]()
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from BBC Cymru
![]()
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
![]()
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
![]()
Protestiadau Tryweryn 1965—BBC Cymru
Duration: 01:54
![]()
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00









