Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Fel yr Haul, I Botany Bay, The Laws of Dying, Ffrwyth a Prifeirdd Cymru

Nest Jenkins a phanel o adolygwyr yn trafod llyfrau o bob math. Nest Jenkins and a panel of reviewers discuss books of all kinds.

Mae'n dymor yr Hydref ac mae Nest Jenkins ac aelodau Clwb Darllen BBC Radio Cymru yn barod i drin a thrafod pob math o gyfrolau.

Yr adolygwyr yn y bennod yma yw Kayley Roberts, Bethan Pari Jones, Megan Nobile a Heledd Hulson, a'r cyfrolau dan sylw yw 'Fel yr Haul', Brennig Davies; 'I Botany Bay', Bethan Gwanas; 'The Laws of Dying', Louise Walsh; 'Ffrwyth', Gareth Evans-Jones a 'Prifeirdd Cymru', Twm Morys ac Emyr Young.

Ậ hithau yn Ddiwrnod Cenedlaethol Hyrwyddo Siopau Llyfrau Annibynnol a Siopau Llyfrau'r Stryd Fawr dydd Sadwrn, Hydref 10fed, mae Lowri Roberts, perchennog Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt yn ymuno i drafod hanes yr unig siop lyfrau Gymraeg y tu allan i Gymru.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Darllediadau

  • Dydd Sul13:00
  • Dydd Llun18:00