Main content

Islwyn Ffowc Ellis, Owain and Henry a nofel Suddo

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth.

Yn y rhaglen yma mae sylw i dri chynhyrchiad theatrig sydd ar fin cael eu llwyfannu, a dau o’r rheiny fel mae’n digwydd bod, yn gysylltiedig gydag un o’r nofelwyr mwyaf dylanwadol yn y ganrif ddiwethaf, sef Islwyn Ffowc Ellis, eicon o'n llenyddiaeth oedd yn llawn cymhlethdodau diddorol. Mae Cwmni Frân Wen yn ail-ddychmygu'r nofel fawr hon ganddo, sef, 'Wythnos yng Nghymru Fydd', ac ar fin teithio gyda hi ar hyd a lled Cymru. Ac yna, mae cwmni Mewn Cymeriad ar daith gyda'u drama hwythau o'r enw, 'Islwyn' - monolog sydd wedi ei hysgrifennu gan Geraint Lewis ac yn olwg o’r newydd ar Islwyn Ffowc Elis.

Y cynhyrchiad arall sydd yn cael sylw ydy 'Owain and Henry' gan Welsh National Theatre a Chanolfan y Mileniwm. Mae hon yn ddrama lwyfan newydd gan y dramodydd Gary Owen ac yn adrodd stori gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn Harri IV. Yn ymuno gyda Manon i'w thrafod mae Gary Owen a Michael Sheen, fydd yn portreadu Owain Glyndŵr.

Yn ogystal â'r cynyrchiadau theatrig yma mae sgwrs hefyd gyda'r dramodydd a’r actor Mared Llywelyn am ei nofel gyntaf ‘Suddo’ sydd newydd ei chyhoeddi.

26 o ddyddiau ar ôl i wrando

56 o funudau

Darllediadau

  • Dydd Sul13:00
  • Dydd Llun18:00