
Heledd Williams
Beti George yn holi Heledd Williams un o Ferched y Môr. Beti George interviews Heledd Williams, one of the rowing crew from Merched y Môr on rowing the Atlantic.
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Heledd Williams o Drefdraeth, Sir Benfro.
Mae Heledd yn un o Ferched y Môr a groesodd Fôr yr Iwerydd taith o 3,000 o filltiroedd mewn 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud fel rhan o World’s Toughest Row.
Fe ddechreuodd Merched y Môr - y criw benywaidd cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y ras - rwyfo o San Sebastián de La Gomera, ger Tenerife, ar 14 Rhagfyr 2025.
Er gwaethaf wynebu tonnau 20 troedfedd, gorflinder a salwch y môr, fe lwyddodd y tîm a'r cwch rhwyfo, o'r enw 'Cariad', groesi'r llinell derfyn yn ynys Antigua yn y Caribî.Cawn hanes ei thaith trwy stormydd a thonnau o 20 troedfedd a'r heriau wnaeth ei wynebu. " merched cyffredin yn eu 40'au + mae rhywbeth yn bosib".
Mae Heledd yn weithiwr cymdeithasol sy’n helpu i ddod o hyd i deuluoedd maeth.
Mae hi hefyd yn dewis 4 cân, gan gynnwys Adra gan Gwyneth Glyn.
Ar y Radio
Darllediadau
- Heddiw18:00BBC Radio Cymru
- Dydd Iau18:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people

