Main content
Ta Ta 2025, Helo 2026
Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n edrych nôl ar y flwyddyn wleidyddol ac yn edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru 2026. A look back at the political year.
Wrth i 2025 ddod i ben, mae Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn edrych yn ôl ar y flwyddyn wleidyddol ac yn edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru 2026.
Mae'r ddau yn cael cwmni cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, gohebydd Seneddol San Steffan BBC Cymru, Catrin Haf Jones a gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Dan Davies.
Ymhlith y pynciau dan sylw; buddugoliaeth Plaid Cymru yn is-etholiad Caerffili, yr heriau sy'n wynebu'r blaid Lafur a pha fath o ymgyrch allwn ni ei ddisgwyl cyn i Gymru bleidleisio ar y seithfed o Fai.
Darllediad diwethaf
Dydd Calan 202613:00
BBC Radio Cymru
Darllediadau
- Mer 31 Rhag 202517:04BBC Radio Cymru
- Dydd Calan 202613:00BBC Radio Cymru
