
CFFI Felin Fach yn 85 oed
Hel atgofion gydag aelodau a chyn-aelodau CFFI Felin Fach wrth iddyn nhw ddathlu'r 85 oed. Members and former members of Felin Fach YFC reminisce as they celebrate 85 years.
Wrth i Glwb Ffermwyr Ifanc Felin Fach yng Ngheredigion ddathlu pen-blwydd yn 85 oed, Alaw Mair Jones, Emyr Evans ac Aneurin Davies sy'n hel atgofion am eu cyfnod yn aelodau o'r clwb.
Hefyd, Meirion Davies o Fridfa Heniarth yng Nglanyfferi, Sir Gaerfyrddin sy'n sôn am flwyddyn lewyrchus i'r fridfa, gydag un ceffyl yn benodol yn ennill un o brif wobrau Sioe Ceffyl y Flwyddyn. Megan Williams aeth draw i Heniarth i glywed y stori.
Sgwrs hefyd gydag aelod arall o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, Iwan Mars Jones o Sir Ddinbych, a hanes taith go arbennig i Siapan yn gynharach eleni.
Richard Davies sydd â'r newyddion diweddaraf o'r sector laeth, a sylw i Eisteddfod CFFI Cymru y penwythnos nesaf yng nghwmni Mared Rand Jones, Prif Weithredwr y Mudiad, a Lynfa Jones, Cadeirydd yr Eisteddfod.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 9 Tach 202507:00BBC Radio Cymru